Mae hwyl yr ŵyl yn dychwelyd gyda Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, ac ni fyddai Nadolig Abertawe’n gyflawn heb ddawnsio ar yr iâ! Yn newydd ar gyfer 2018! Er mwyn cadw’r sglefrwyr yn sych ac i wneud yn siŵr na fydd y glaw’n difetha’ch hwyl, bydd ein llyn iâ Admiral poblogaidd dan do eleni, felly gallwch fwynhau sglefrio o gwmpas y llyn iâ ym mhob tywydd!
Gwisgwch eich sgidiau sglefrio a mwynhewch y teimlad Nadoligaidd wrth i chi sglefrio o gwmpas gan wrando ar gerddoriaeth Nadoligaidd ac edmygu’r goleuadau’n pefrio.
Hwyl i Bawb
Gall pawb fwynhau sglefrio yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau. Yn ogystal â bod yn annwyl iawn, mae’r pengwiniaid sglefrio’n helpu i sefydlogi plant ifanc a all fod yn sigledig ar yr iâ. Gall defnyddwyr cadair olwyn fynd ar yr iâ gyda chyfaill – holwch pan fyddwch yn cadw lle.
Sesiynau Hamddenol
Gyda goleuadau sefydlog, lefelau sain is a llai o bobl, bydd y sesiynau hyn yn ddelfrydol ar gyfer pobl a fyddai’n elwa o fod mewn awyrgylch mwy hamddenol, neu’r rhai y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt i fwynhau’r llyn iâ.
This post is also available in: English