||
||
Newid maint y testun
| Testun yn Unig | Arferol| Cyferbynnu| Help
Logo to act as a header and advert for Nadolig yn Abertawe
Website URL : http://www.swanseachristmas.com/index.cfm?articleid=14630
||

Teithio i Abertawe

Gwasanaethau Bysus a Choetsis

Wrth i'r orsaf fysus gael ei gweddnewid yn gyfangwbwl, busnes fel arfer fydd hi ar gyfer Canol Dinas Abertawe. Bydd yr holl
wasanaethau bysys a choetsis yn rhedeg o safleoedd bysus dros dro, a bydd gwasanaethau gwennol hefyd yn gweithredu cylchdaith. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr orsaf fysus newydd, amserlenni bysus a ble i ddal eich bws, ewch i
www.swanseacitycentre.com/busstation.


Parcio a Theithio

Dros y Nadolig, mae'n gyflym ac yn hwylus i ddefnyddio Parcio a Theithio yng Ngland?r, Fforestfach a Ffordd Fabian. Mae'n costio £2.20 yn unig i barcio drwy'r dydd ac i hyd at 4 o bobl deithio ar y bws, a bydd cyfleusterau ar agor bob dydd Sul o
15 Tachwedd (tan 20 Rhagfyr).


Parcio

Bydd siopwyr yn falch o glywed bod dros 8,580 o leoedd parcio ceir a 25 maes parcio naill ai yng Nghanol y
Ddinas neu gerllaw. Gallwch barcio ym meysydd parcio'r cyngor AM DDIM bob dydd Sul ac ar gyfer siopa fin nos, a gellir parcio am 2 awr AM DDIM ym Maes Parcio Aml-lawr Dewi Sant.


Shopmobility

Mae Canolfan Shopmobility Abertawe yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, yn hurio sgwteri trydan a/neu gadeiriau olwyn pweredig. 

Ffoniwch 01792 461785 am fwy o wybodaeth.

© 2010 Nadolig yn Abertawe